GWEITHGARWCH RHYNGWLADOL GWEINIDOGION

 

Mehefin 2025

 

 

YMWELIADAU Â CHYMRU

 

13 Mehefin

 

 

 

 

 

 

 

 

 

25 Mehefin

 

 

 

 

26 Mehefin

 

Ymweliad â Chymru gan y Gweinidog Diwylliant yn Llywodraeth Catalwnia

Cyfarfu'r Gweinidog Chwaraeon a Diwylliant â'r Gweinidog Diwylliant yn Llywodraeth Catalwnia yn Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan. Roedd y cyfarfod, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Amgueddfa Cymru, yn trafod meysydd posibl o gydweithio ar draws y sector. Roedd yr ymweliad yn gam pwysig i ddyfnhau'r berthynas rhwng Cymru a Chatalwnia, cyn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy Lywodraeth yn ddiweddarach eleni.

 

Cyfarfod ag UNRWA

Cyfarfu'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol â chynrychiolydd o Swyddfa UNRWA ar gyfer Ewrop, i glywed diweddariad ar y sefyllfa ddyngarol yn Gaza.

 

Ymweliad Talaith Utah â Chymru

Cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio gyfarfod dwyochrog byr ag Is-lywodraethwr Deidre Henderson a rhoddodd groeso i'r ddirprwyaeth o swyddogion y llywodraeth yn ystod eu hymweliad â Chymru. Prif bwrpas yr ymweliad oedd trafod ynni adnewyddadwy, gan gynnwys y diwydiant niwclear.

 

YMWELIADAU Â GWLEDYDD ERAILL

 

11 Mehefin

 

 

 

 

 

11 Mehefin

 

 

 

 

 

 

 

17 Mehefin

 

 

 

Cyfarfod y Prif Weinidog gyda Llysgennad y Swistir yn Llundain

Cyfarfu'r Prif Weinidog â Llysgennad y Swistir yn ei breswylfa yn Llundain i drafod cyfranogiad Cymreig yn Euro 2025, gan sicrhau bod Cymru yn gallu manteisio ar gysylltiadau cynyddol â'r Swistir a sicrhau ein bod yn cyflawni buddion parhaol..

 

Presenoldeb y Prif Weinidog mewn Derbyniad Busnes Cymru a Japan

Mynychodd y Prif Weinidog dderbyniad busnes a drefnwyd gan Lysgenhadaeth Japan i ddathlu'r cysylltiadau economaidd cryf rhwng Cymru a Japan. Cyfarfu'r Prif Weinidog â gwesteion busnes, cynnal cyfweliadau i'r wasg a chynnal cyfarfod dwyochrog anffurfiol byr gyda'r Llysgennad.

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Sioe Awyr Paris

Mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio'r Sioe Awyr i atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dyfu'r sectorau awyrofod ac amddiffyn sydd wedi'u hintegreiddio'n agos. Tra yn Ffrainc, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â Llysgennad y DU i Ffrainc a chwmnïau allweddol.